CDH a'r GIG ~ cliciwch yma

Newyddion ~ cliciwch yma

Adborth ~ cliciwch yma

Cysylltu ar-lein ~ cliciwch yma

Os hoffech chi gysylltu gyda ni dros y ffôn neu drwy lythyr cliciwch yma.

Mae CDH yr Ymgynghorwyr Yswiriant ac Arian wedi eu Hawdurdodi ac yn cael eu Rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
FRN 154429

Buddsoddiadau

Ein nod yn CDH yw canfod atebion addas ar gyfer amgylchiadau ein cleientiaid, ac ni ellir gwneud hyn heb ffurfio perthynas bersonol a pherthynas fusnes gyda’n cleientiaid.

Mae buddsoddi cyfalaf, boed yn fuddsoddi’n rheolaidd neu fuddsoddi cyfandaliadau, yn golygu canfod beth yw gofynion y cleientiaid a chreu ateb addas i gwrdd â’u hamcanion ar gyfer y dyfodol.

Gall ein cleientiaid fod yn buddsoddi i ddiogelu eu safon byw wedi iddynt ymddeol, yn buddsoddi ar gyfer dyfodol eu plant/hwyrion ac wyresau neu’n buddsoddi ar gyfer dydd pan fyddant angen arian, ac mae ein tîm o gynghorwyr annibynnol profiadol yn awyddus i ddod o hyd i’r ateb iawn ac yn ymrwymo i droi pob carreg hyd nes y gwnânt hynny.

Os nad oeddech yn medru dod o hyd i’r wybodaeth yr oeddech yn chwilio amdani cofiwch gysylltu â ni.

Click here


Dylunwyd gan Delwedd
Dolennau Defnyddiol Cysylltiadau Tudalen llyfrnod Dywedwch wrth Ffrind Argraffu’r Dudalen