Mae’r holl ystadegau, y wasg a’r Llywodraeth yn ein hatgoffa hyd at syrffed o ‘gostau magu plant’, ‘costau addysg bellach’, dyledion myfyrwyr ac, yn ddiweddarach, yr effaith a gaiff prisiau tai ar bobl ifanc. Sut medrwn eich helpu?
Medrwn eich cynghori ynglŷn â gwahanol bethau y gellid eu gwneud i sicrhau y bydd eich plant yn iawn yn ariannol yn y dyfodol. Medrwch ddarparu ar gyfer cost ffioedd ysgol neu ffioedd dysgu neu gynilo ar gyfer car cyntaf y plentyn neu flaendal ar dŷ. Beth bynnag fo’r angen gadewch i’n tîm o gynghorwyr profiadol rannu gyda chi eu cyfoeth o wybodaeth a gadewch iddynt ddweud wrthych sut y gwnaethant hwy, sydd eu hunain yn rhieni, baratoi ar gyfer y daith hir a oedd o’u blaenau! |
|