|




Os hoffech chi gysylltu gyda ni dros y ffôn neu drwy lythyr cliciwch yma.
|
|
|
Mae CDH yr Ymgynghorwyr Yswiriant ac Arian wedi eu Hawdurdodi ac yn cael eu Rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
FRN 154429
|
|
Buddsoddiadau – Cynilo’n Rheolaidd
|
|
Mae nifer o ddulliau o fuddsoddi ar gael ar y farchnad ar gyfer cynilo’n rheolaidd..
- Cyfrifon Cynilo Unigol (ISA) – scyfyngir ar y swm y ceir ei fuddsoddi bob blwyddyn, a bydd Cyfrif Cynilo Unigol yn caniatáu i’r cyfalaf dyfu heb i chi orfod talu treth incwm na threth enillion cyfalaf .
- Ymddiriedolaethau Unedau (Unit Trusts) –cyfran mewn portffolio a gyfunir ymhellach gydag arian buddsoddwyr eraill, sydd yn cael ei reoli’n broffesiynol gan reolwr cronfeydd. Tynnir treth oddi ar dwf cyfalaf a thaliadau incwm.
- Cwmnïau Buddsoddi Penagored – tebyg iawn o ran ei strwythur i Ymddiriedolaethau Unedau ond yn cael eu cyfrif yn Gwmni Cyfyngedig. Prynir cyfranddaliadau yn y gronfa a chewch werthu’r cyfranddaliadau yn ôl i’r gronfa ar unrhyw adeg yn ôl gwerth eich portffolio pan fyddwch yn ymadael.
|
|
Os nad oeddech yn medru dod o hyd i’r wybodaeth yr oeddech yn chwilio amdani cofiwch gysylltu â ni.
|
|
|
|
|
|
|