Byddwn yn eich cynghori ac yn gwneud argymhellion ar eich cyfer ynglŷn â Morgeisi a Morgeisi Oes, ond nid cyn i ni asesu eich anghenion.
Cynigiwn gyfarfod cychwynnol (yn ddi-dâl) i ddisgrifio’n gwasanaethau’n llawnach i chi ac i egluro’r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer talu.
Os bydd ein telerau’n dderbyniol gennych, bydd eich Cynghorydd, cyn cynnig unrhyw gyngor na gwneud unrhyw argymhellion, yn casglu at ei gilydd ac yn dadansoddi gwybodaeth bersonol amdanoch chi, eich arian a’ch anghenion a’ch amcanion.
Pan fyddwn wedi cloriannu eich amgylchiadau bydd ein Cynghorydd yn argymell ac yn trafod yr hyn y maent yn credu y dylid ei wneud ac, os byddwch yn cytuno bydd yn trefnu buddsoddiadau perthnasol ar eich cyfer. |