Byddwn yn eich cynghori ac yn gwneud argymhellion ar eich cyfer ond nid cyn i ni asesu eich anghenion
Cynigiwn gyfarfod cychwynnol (yn ddi-dâl) i ddisgrifio’n gwasanaethau’n llawnach i chi ac i egluro’r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer talu.
Os bydd ein telerau’n dderbyniol gennych, bydd eich Cynghorydd, cyn cynnig unrhyw gyngor na gwneud unrhyw argymhellion, yn casglu at ei gilydd ac yn dadansoddi gwybodaeth bersonol amdanoch chi, eich arian a’ch anghenion a’ch amcanion.
|